Cychwyn arni gyda LinkedIn Learning!

A ydych chi wedi clywed am LinkedIn Learning? O oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i’w ddefnyddio i’ch helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys eich sgiliau digidol?  Mae LinkedIn Learning, sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn llwyfan dysgu ar-lein. Mae’n cynnwys llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr, a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, neu i archwilio meysydd eraill. Yn ystod y sesiwn hon, byddwn ni’n dangos i chi sut i: 

  • Lywio’r llwyfan a chwilio am gynnwys perthnasol 
  • Arddangos tystysgrifau ar gyfer cyrsiau yr ydych wedi cwblhau ar eich proffil LinkedIn personol 
  • Grwpio cynnwys sydd yn seiliedig ar bwnc penodol, neu yr ydych eisiau gwylio rhywbryd arall, fel casgliadau personol 

Session Details

📅 Date: 09 November 2023

Duration: 45 minutes

💬 Session Language: Welsh

👩‍🏫 Speaker: Sioned Llywelyn, Information Services

🎥 Recording: Session recording is not available

💻 PowerPoint: