DIGWYDDIADAU SYDD I DDOD
19
Medi 2024
Symposiwm Canolfan Ymchwil AI
Galwad am gyflwyniadau
Mae Symposiwm Canolfan Ymchwil AI ‘Our Enabled World’ (Gwthio’r Ddynoliaeth Ymlaen) yn darparu llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr o ddisgyblaethau lluosog ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol at ei gilydd ac yn cysylltu â nhw. Ei nod yw arddangos ymchwil academyddion, ymarferwyr, a myfyrwyr ymchwil ar draws Prifysgol Aberystwyth a’i rhwydweithiau rhanddeiliaid.
Fe’ch gwahoddir i gyflwyno cyflwyniad 15 munud i’w ystyried, i’w gyflwyno yn y symposiwm. Mae’r alwad hon yn agored i waith rhagarweiniol/parhaus ym mhob maes ymchwil ac ymarfer AI a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y themâu canlynol: Archwilio a Darganfod, Moeseg, Dadansoddi Ymddygiad, Modelu Rhagfynegol, Theori a Datblygiad AI, Ymyriadau, Creu.
Am ragor o wybodaeth gweler y dogfennau sydd ynghlwm, os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â sob@aber.ac.uk
Dylid cyflwyno crynodebau trwy e-bost mewn fformat Word i Dr Sophie Bennett-Gillison sob@aber.ac.uk erbyn 12 Gorffennaf 2024
9 am - 5 pm
Aberystwyth University
15
Gorffennaf 2024
Ysgol Haf DA Aberystwyth | Ysgol Haf AI Aberystwyth
Mae Ysgol Haf y Ganolfan DA yn ddigwyddiad blynyddol a gyllidir gan y Ganolfan DA ac Ysgol y Graddedigion, ac mae’n anelu at gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr.
Bydd yr ysgol yn rhedeg wyneb yn wyneb ac mae’n gwrs dwys, wythnos o hyd gyda chymysgedd o seminarau rhyngweithiol, darlithoedd a sesiynau ymarferol. Canlyniadau dysgu arfaethedig yr ysgol yw:
1. Llunio problem ymchwil y gellir mynd i’r afael â hi gan ddefnyddio dulliau DA.
2. Ymgyfarwyddo â Python ar gyfer prosesu data a chymhwyso dulliau DA.
3. Penderfynu pa ddull DA fyddai’n gweddu orau i fynd i’r afael â’r broblem benodol.
4. Dylunio a gweithredu llwybr prosesu data a modelu personol.
5. Gwerthuso perfformiad y llwybr o ran cywirdeb, cadernid a defnyddioldeb.
6. Rhoi cyflwyniad.
Mae’r ysgol yn agored i unrhyw un (ar unrhyw lefel ac o unrhyw ddisgyblaeth) sydd â diddordeb mewn cymhwyso DA i’w hymchwil ac sydd â set ddata mewn llaw. Byddai rhywfaint o wybodaeth am raglennu yn fanteisiol, ond darperir cefnogaeth i’r rhai nad oes ganddynt brofiad blaenorol o raglennu. Anogir myfyrwyr ymchwil uwchraddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn arbennig i ymgeisio.
Cynhelir Ysgol Haf Canolfan DA 2024 rhwng 15 a 19 Gorffennaf 2024.
9 am
Medrus, Aberystwyth University
DIGWYDDIADAU’R GORFFENNOL
12
Rhagfyr 2023
Bamikole Olaleye Akinsehinde (Cyfrifiadureg) Enhancing Rainfall Prediction in Aberystwyth and Bath: Insights from an Initial Integration with Deep Learning, Advance Feature Selection and Ensemble Techniques
Caiff y seminarau hyn eu trefnu yn rhan o ganolfan ymchwil Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen), llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Nod y gyfres o seminarau yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
06
Rhagfyr 2023
Cory Thomas (Adran Cyfrifiadureg) Yr hyn y gall Peirianneg Meddalwedd Ymchwil ei gynnig
Caiff y seminarau hyn eu trefnu yn rhan o ganolfan ymchwil Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen), llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Nod y gyfres o seminarau yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
20
Tachwedd 2023
Maria de la Puerta Fernández (IBERS) A new open dataset for rangeland and pasture management in Namibia
Caiff y seminarau hyn eu trefnu yn rhan o ganolfan ymchwil Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen), llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Nod y gyfres o seminarau yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
14
Tachwedd 2023
Will Robinson (Cyfrifiadureg) An Expanded Out-of-Distribution Testing Framework for Deep Learning
Caiff y seminarau hyn eu trefnu yn rhan o ganolfan ymchwil Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen), llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Nod y gyfres o seminarau yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
27
Hydref 2023
Yr Athro Gennady Mishuris, (Yr Adran Fathemateg) Can AI help to predict the average toughness of a heterogeneous material undergoing fracture?
Caiff y seminarau hyn eu trefnu yn rhan o ganolfan ymchwil Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen), llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Nod y gyfres o seminarau yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
19
Hydref 2023
Tossapon Boongoen (Cyfrifiadureg) Imperfect Data: Challenge, Previous and Future work
Caiff y seminarau hyn eu trefnu yn rhan o ganolfan ymchwil Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen), llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Nod y gyfres o seminarau yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
5
Hydref 2023
Symposiwm Canolfan Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial Ein Byd sydd wedi’i alluogi (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen)
Dewch i adnabod y Ganolfan Ymchwil.
Estynnir croeso cynnes i chi am gyfarfod anffurfiol gyda gwin a lluniaeth ysgafn yn y ‘T’ŷ Trafod Ymchwil’ ar noson y 5ed o Hydref.
Gwahoddir ymchwilwyr i ymuno â ni i gael gwybod am y cynlluniau sydd ar ddod gan Ganolfannau Ymchwil Prifysgol Aberystwyth Canolfannau Ymchwil : Ymchwil, Busnes ac Arloesi , Prifysgol Aberystwyth.
Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i ymweld â’r Tŷ Trafod Ymchwil , a dysgu sut i ddefnyddio a chadw’r gofod newydd, a fydd ar gael i bob ymchwilydd.
13
Medi 2023
DA – Symposiwm ‘Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen’
Bydd y Symposiwm yn darparu llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr o ddisgyblaethau lluosog ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol.
Dolen i’r Rhaglen Symposiwm DA
17
Gorffennaf 2023
Ysgol Haf DA Aberystwyth | Ysgol Haf AI Aberystwyth
Hoffem eich gwahodd i ddod i’r ail Ysgol Haf DA i Ddechreuwyr yn Aberystwyth a gynhelir yn Aberystwyth rhwng 17 a 21 Gorffennaf. Mae’r ysgol, a gyllidir gan y Ganolfan DA ac Ysgol y Graddedigion, yn anelu at gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr.
Bydd yr ysgol yn gwrs dwys wyneb yn wyneb, wythnos o hyd gyda chymysgedd o seminarau rhyngweithiol, darlithoedd a sesiynau ymarferol. Canlyniadau dysgu arfaethedig yr ysgol yw:
1. Llunio problem ymchwil y gellir mynd i’r afael â hi gan ddefnyddio dulliau DA.
2. Ymgyfarwyddo â Python ar gyfer prosesu data a chymhwyso dulliau DA.
3. Penderfynu pa ddull DA fyddai’n gweddu orau i fynd i’r afael â’r broblem benodol.
4. Dylunio a gweithredu llwybr prosesu data a modelu personol.
5. Gwerthuso perfformiad y llwybr o ran cywirdeb, cadernid a defnyddioldeb.
6. Rhoi cyflwyniad.
Mae’r ysgol ar agor i unrhyw un (ar unrhyw lefel ac o unrhyw ddisgyblaeth) sydd â diddordeb mewn cymhwyso DA i’w hymchwil ac sydd â set ddata mewn llaw. Byddai rhywfaint o wybodaeth am raglennu yn fanteisiol, ond darperir cefnogaeth i’r rhai nad oes ganddynt brofiad blaenorol o raglennu. Anogir myfyrwyr ymchwil uwchraddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn arbennig i ymgeisio.
Disgwylir i’r ymgeiswyr fynychu’r ysgol gyfan a fydd yn rhedeg drwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Darperir cinio a byrbrydau.
16
Mawrth 2023
Melin Drafod y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial | AI Hub Sandpit
Bydd y Ganolfan Ymchwil DA yn cynnal melin drafod rhyngddisgyblaethol i bob disgyblaeth o fewn PA i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynigion ynghylch y ddwy thema ganlynol: DA Cymhwysol Datblygu DA Sylfaenol (mewn unrhyw faes) Noder bod croeso i ymchwilwyr ôl-ddoethurol wneud cais i gymryd rhan yn y felin drafod.
23
Medi 2022
Symposiwm Canolfan Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan DA (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen)
Bydd y Symposiwm Canolfan Ymchwil DA ‘Ein Byd sydd wedi’i alluogi gan DA (Gwthio Dynoliaeth yn ei Blaen) yn darparu llwyfan trawsddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr o ddisgyblaethau lluosog ar lefelau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Y nod yw rhoi llwyfan i waith ymchwil academyddion, ymarferwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth a’i rhwydweithiau o randdeiliaid.
15
Awst 2022
Ysgol Haf DA Aberystwyth | Ysgol Haf AI Aberystwyth
Hoffai’r Ganolfan DA eich gwahodd i ddod i’r Ysgol Haf DA gyntaf i Ddechreuwyr yn Aberystwyth a gynhelir yn Aberystwyth rhwng 15 a 19 Awst. Bydd hwn yn gwrs dwys wyneb yn wyneb, wythnos o hyd gyda chymysgedd o seminarau rhyngweithiol, darlithoedd a sesiynau ymarferol. Canlyniadau dysgu arfaethedig yr ysgol yw:
1. Llunio problem ymchwil y gellir mynd i’r afael â hi gan ddefnyddio dulliau DA.
2. Ymgyfarwyddo â Python ar gyfer prosesu data a chymhwyso dulliau DA.
3. Penderfynu pa ddull DA fyddai’n gweddu orau i fynd i’r afael â’r broblem benodol.
4. Dylunio a gweithredu llwybr prosesu data a modelu personol.
5. Gwerthuso perfformiad y llwybr o ran cywirdeb, cadernid a defnyddioldeb.
6. Rhoi cyflwyniad.
Mae’r ysgol yn agored i unrhyw un (o unrhyw ddisgyblaeth) sydd â diddordeb mewn cymhwyso DA i’w hymchwil ac sydd â set ddata mewn llaw. Byddai rhywfaint o wybodaeth am raglennu yn fanteisiol, ond darperir cefnogaeth i’r rhai nad oes ganddynt brofiad blaenorol o raglennu. Anogir myfyrwyr ymchwil uwchraddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn arbennig i ymgeisio.
Disgwylir i’r ymgeiswyr fynychu’r ysgol gyfan a fydd yn rhedeg drwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Darperir cinio a byrbrydau.
10
Mai 2022
Melin Drafod y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial | AI Hub Sandpit
Bydd y Ganolfan Ymchwil DA yn cynnal melin drafod rhyngddisgyblaethol i bob disgyblaeth o fewn PA i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynigion ynghylch y ddwy thema ganlynol: DA Cymhwysol Datblygu DA Sylfaenol (mewn unrhyw faes) Noder bod croeso i ymchwilwyr ôl-ddoethurol wneud cais i gymryd rhan yn y felin drafod.
04
Ebrill 2022
CYFLWYNO’R GANOLFAN DA
Yn rhan o strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol, penderfynwyd sefydlu Canolfannau ymchwil amlddisgyblaethol mewn tri maes ymchwil strategol. O dan arweiniad Christine Zarges, Helen Miles, Huw Morgan, Jungong Han, Otar Akanyeti, Reyer Zwiggelaar, a Sophie Bennett-Gillison, mae’r Ganolfan DA yn croesawu cyfranogiad o bob rhan o’r gymuned ymchwil i ddatblygu mentrau ymchwil newydd a darparu cymorth i groesi ffiniau disgyblaethol. Gweler y ddogfen sydd ynghlwm am fwy o fanylion.
Fel man cychwyn ar y daith hon bydd y Ganolfan DA yn cynnal gweithdy ar 4 Ebrill 2022 rhwng 12-3yp. Bydd cinio ar gael tua 1yp. (Manylion i ddilyn wrth gofrestru)
Diben y gweithdy fydd:
• Cyflwyno’r Ganolfan DA
• Dod ag ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn materion/cymwysiadau DA allweddol at ei gilydd
• Helpu i feithrin rhwydweithio
• Chwilio am syniadau ymchwil cymhwyso DA a DA cydweithredol
Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni yn y digwyddiad ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno.