CWRDD Â’N TÎM
Otar Akanyeti
Mae Otar Akanyeti yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu deallusrwydd artiffisial, gwyddor data a datrysiadau roboteg i gynorthwyo darganfod gwybodaeth yn y gwyddorau bywyd, ac mae ganddo arbenigedd mewn dadansoddi data amlfoddol, adnabod patrymau a modelu. Ef yw’r Prif Ymchwilydd “Automatic Assessment of Gait Impairment and Recovery of Stroke using Smartwatch” astudiaeth a ariennir gan GIG Cymru (Cyfeirnod portffolio: 43991). Mae’n Gyd-ymchwilydd ym mhrosiectau UK Miscanthus AI (EP / Y005430/1) ac EU iNavigate (873178, H2020-MSCA-RISE-2019). Mae wedi cyhoeddi mwy na 30 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion amlddisgyblaethol blaenllaw, gan gynnwys Nature Communications, PNAS, Cell reports a Royal Society of Proceedings B.
Sophie Bennett-Gillison
Mae Sophie yn ddarlithydd mewn Rheolaeth a Busnes, mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar y Diwydiannau Creadigol; yn benodol, mae’n ystyried y ffordd y gall y sector hwn lywio arferion a pholisi sefydliadol cyfredol. Mae prosiect diweddar Sophie yn ystyried defnyddio VR mewn Crefft a sut y gellir defnyddio hyn mewn ffisiotherapi wedi’i ysbrydoli gan gelf. Mae gwaith blaenorol yn cynnwys astudiaeth o Grefftwyr ac Artistiaid yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gan archwilio sut mae unigolion creadigol yn cydbwyso’r angen i ennill incwm â chael hunangyflawniad o’r gwaith i gynnal mentrau creadigol llwyddiannus, a goblygiadau ehangach hyn o fewn cyd-destun economaidd sefydliadol a rhanbarthol.
Mae Sophie yn rhan o’r tîm trefnu ar gyfer y Symposiwm Deallusrwydd Artiffisial blynyddol a, hefyd, y Seminarau Gwyddor Data. Nod y ddau weithgaredd yw tynnu sylw at natur amlddisgyblaethol ymchwil deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn meysydd megis archwilio/darganfod, modelu rhagfynegol, creu, dadansoddi ymddygiad, datblygu damcaniaeth, moeseg, ymyriadau a thechnoleg alluogi.
John Doonan
John Doonan yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, o fewn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddo ddiddordeb hirdymor mewn defnyddio dulliau delweddu meintiol o’r radd flaenaf i ddosbarthu’r mecanweithiau biolegol sylfaenol sy’n sail i dwf a datblygiad (https://scholar.google.com/citations?hl=en&user=6KcPHw8AAAAJ&view_op=list_works&sortby=pubdate). Mae methodolegau digyswllt annistrywiol yn darparu mesuriadau niferus o’r un pwnc unigol, sy’n ein galluogi i ofyn cwestiynau am effaith yr amgylchedd neu reolaeth ar ganlyniadau. Mae graddfa’n amrywio o is-gellog i organeb gyfan, ac ar gyfer cnydau, i raddfa y dirwedd. Ef yw’r Prif Ymchwilydd ar UK Miscanthus AI (EP/Y005430/1) ac mae’n ymwneud â nifer o brosiectau eraill sy’n gysylltiedig â ffenoteipio planhigion (https://www.plant-phenomics.ac.uk/).
Anne Harris
Cefndir Anne yw Rheolwr Prosiect a gweinyddwr yn y Sector Cyhoeddus. Mae hi wedi gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 2019 ac mae ganddi brofiad helaeth o ddarparu cefnogaeth i brosiectau amlddisgyblaeth. Yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn ymwneud ag agweddau ar Ganolfan Ymchwil DA Prifysgol Aberystwyth.
Aloysius Igboekwu
Mae Aloysius Igboekwu yn Uwch Ddarlithydd Cyllid ac yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig yn Ysgol Fusnes Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ymddygiad y farchnad a buddsoddwyr, yn bennaf trwy’r fframwaith rhesymu ‘cyflym a chynnil’. Mae ei brosiectau diweddar yn pwyso a mesur teimladau’r farchnad a sut mae hyn yn dylanwadu ar brisio asedau, perfformiad, a buddsoddiad yn gyffredinol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd diddordeb ymchwil Aloysius yn cynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial (DA) wrth gasglu ac adeiladu mynegeion teimlad yn seiliedig ar ymddygiad buddsoddwyr ar amrywiol fforymau trafod ar-lein, DA ym maes cynghori ar reoli cyfoeth a DA ymchwil moeseg. Ef yw Hyrwyddwr Thema Sefydliad Alan Turing ar gyfer grŵp yr Economi, Cyllid a Systemau Ymreolaethol. Cafodd Aloysius flynyddoedd o brofiad yn y sector bancio cyn dod i’r byd academaidd.
Mae ymchwil Helen ym maes graffeg gyfrifiadurol a delweddu data, gyda ffocws ar HCI a helpu pobl i gael mwy o’u data. Mae hi wedi gweithio gyda chydweithwyr mewn sawl maes i bwyso a mesur cysylltiadau rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys seicoleg, archaeoleg, gwyddor chwaraeon, daearyddiaeth, y diwydiannau creadigol, troseddeg a gwleidyddiaeth ryngwladol. Ers 2016, mae Helen wedi bod yn gweithio yn rhan o dîm ExoMars Prifysgol Aberystwyth, gan ddatblygu technegau prosesu delweddau a delweddu ar gyfer y daith AEG hon i’r blaned Mawrth, gan gynnwys archwilio sut y gallai DA symleiddio prosesu data. Yn fwyaf diweddar, mae Helen wedi bod yn gweithio gyda grŵp rhyngddisgyblaethol sy’n archwilio gwleidyddiaeth a rhyngweithiadau amlrywogaethau, gan ganolbwyntio ar sut mae DA yn cael ei blethu i’n bywydau, yn arbennig o ran cynhyrchu gwybodaeth ac ymarfer creadigol.
Mae’r Athro Huw Morgan yn arwain grŵp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu offer dadansoddi data newydd ar gyfer dehongli arsylwadau atmosfferig yr haul ac ar gyfer rhagweld tywydd y gofod, gan gynnwys cyllid y llywodraeth i ddatblygu systemau rhagolygon newydd ar gyfer Swyddfa Dywydd y DU. Deallusrwydd Artiffisial yw dyfodol rhagweld tywydd y gofod, ac mae ein tîm yn Aberystwyth yn ymwneud â pharatoi setiau data meincnod, a datblygu fframweithiau ar gyfer canfod a nodweddu stormydd solar yn awtomatig, a’r amser y rhagwelir y byddant yn cyrraedd y Ddaear drwy ddefnyddio dulliau dysgu peirianyddol.
Faisal Rezwan
Mae Faisal yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg: Mae ei ddiddordeb ymchwil yn ymwneud yn bennaf â deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a chydnabod patrymau ar gyfer dadansoddi, deall a gwella rhagfynegiad cyfrifiadurol o glefydau, ffenoteipiau a swyddogaethau sy’n ymwneud ag iechyd pobl. Mae’n arwain nifer o brosiectau DA/DP. Yn eu plith “Utilisation of recorded voice samples for developing a machine learning framework to predict pulmonary functions” a “A 3D electrocardiogram (ECG) analyser model for predicting cardiovascular diseases” yw’r ddau brosiect mwyaf nodedig. Mae hefyd yn cydweithio ar nifer o brosiectau DP ym maes gwyddorau planhigion ac anifeiliaid. Mae wedi cyhoeddi mwy na 50 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion amlddisgyblaethol blaenllaw, gan gynnwys Nature Communications, Clinical Epigenetics, Nucleic Acids Research a Genomic Research. Dyfarnwyd cymrodoriaeth nodedig Turing iddo hefyd ac roedd ei ymchwil yn Turing yn cynnwys prosiect peilot yn defnyddio dull dysgu dwfn ar ddata cleifion o Systemau Cofnodion Iechyd Electronig (EHRS).
Yasir Saleem Shaikh
Mae Yasir yn ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, Rhyngrwyd Pethau, dinasoedd clyfar, rhwydweithiau cerbydau, a rhwydweithiau diwifr. Roedd yn rhan o brosiect WISE-IoT H2020 yr UE rhwng 2018 a 2020. Yn ddiweddar mae’n gweithio ar gymhwyso DA i rwydweithiau cerbydau a dinasoedd clyfar. Yn fwy penodol, DA mewn rhwydweithiau cerbydau ar gyfer dadlwytho data a rheoli ymddiriedaeth, a DA mewn dinasoedd clyfar ar gyfer datblygu offer cyn-brosesu data. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i gymhwyso DA i Systemau Trafnidiaeth Deallus a cherbydau ymreolaethol. Ar wahân i hynny, mae ar Bwyllgor Rhaglen Dechnegol ar gyfer gwahanol gynadleddau rhyngwladol (e.e. Globecom, ICC) ac mae’n adolygydd amryw o gyfnodolion a chynadleddau rhyngwladol.
Martin Swain
Mae Martin Swain yn Uwch Ddarlithydd mewn Biowybodeg, wedi’i leoli yn yr Adran Gwyddorau Bywyd ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae ganddo gefndir mewn Ffiseg a Chyfrifiadureg, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn bennaf mewn genomeg a dadansoddi setiau data mawr o ddilyniannau biolegol, gyda chymwysiadau i systemau bwyd, cnydau, a pharasitiaid a fectorau. Mae wedi bod yn rhan o sawl prosiect cydosod genomau proffil uchel, gan gynnwys un y Tsetse Fly a’r fector malwod Schistosomiasis, yn ogystal â genomau a thrawsgrifiadau niferus o blanhigion a microbau. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn modelu mathemategol ac efelychu systemau biolegol – gan gynnwys rhyngweithiadau ecolegol, dadansoddi cydbwysedd fflwcs metabolig, a ffiseg bacteria heidio. Ar hyn o bryd mae’n cydlynu’r seilwaith cyfrifiadura perfformiad uchel yn Adran y Gwyddorau Bywyd ac IBERS; ac mae’n aelod o Bwyllgor Seilwaith Uwchgyfrifiadura Cymru.
Myra Wilson
Mae Myra Wilson yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, ac yn arbenigo mewn DA a Roboteg. Ei diddordebau ymchwil yw algorithmau esblygiadol a roboteg a ysbrydolwyd gan fioleg. Mewn cydweithrediad ag Airbus, mae wedi defnyddio algorithmau esblygiadol i osod Cerbydau Awyr Di-griw (UAV) i wella’r cyfathrebu rhwydwaith rhwng unedau ar y ddaear. Ar hyn o bryd hi yw llywydd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymddygiad Addasol (ISAB) sy’n rhedeg y gynhadledd Efelychu Ymddygiad Addasol a’r Cyfnodolyn Ymddygiad Addasol.
Christine Zarges
Mae Christine yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar chwilio ac optimeiddio hewristig. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dadansoddiad damcaniaethol o hewristeg chwilio ar hap megis algorithmau esblygiadol a systemau imiwnedd artiffisial gyda’r nod o ddeall eu hegwyddorion gwaith ac arwain eu dyluniad a’u cymhwysiad. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn cymwysiadau ym maes optimeiddio cyfuniadol yn ogystal ag agweddau cyfrifiadurol a damcaniaethol ar brosesau a systemau naturiol. Mae hi’n aelod o fwrdd golygyddol Evolutionary Computation (MIT Press), Golygydd Cyswllt Engineering Applications of Artificail Intelligence (Elsevier), ac mae wedi bod yn rhan o drefnu cynadleddau amrywiol yn y maes, yn bwysicaf oll GECCO, PPSN, FOGA ac EvoStar. Mae Christine yn aelod o Fwrdd Gweithredol SPECIES, y Gymdeithas er Hyrwyddo Cyfrifiant Esblygiadol Yn Ewrop a’r Cyffiniau, ac yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli dros y DU mewn rhwydweithiau ymchwil Ewropeaidd sy’n ymwneud ag Algorithmau Optimeiddio ar Hap, sef COST action CA22137 ar hyn o bryd.
Mae gan Reyer dros 20 mlynedd o brofiad ymchwil cydweithredol gydag arbenigwyr clinigol/bioleg sy’n ymdrin â datblygu dysgu peirianyddol a thechnegau dadansoddi delweddau/data meddygol/biolegol. Yn fwy diweddar, mae hefyd wedi bod yn gweithio ar y rhyngwyneb gyda chadwrfeydd digidol ac yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yn Uwchgyfrifiadura Cymru. Mae’r cyllid cyfredol yn cynnwys Canolfan Hyfforddiant Doethurol yr UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (EP/S023992/1), Miscanthus AI – Dethol a Bridio Planhigion ar gyfer Sero Net (EP/Y005430/1), a Deallusrwydd Artiffisial yn y Biowyddorau (BB/Y006933/1).